Y Grŵp Trawsbleidiol ar
y Lluoedd Arfog a Chadetiaid
Dydd Mawrth 7 Hydref 2014 - 12.15 - 13.15
Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel, y Cynulliad Cenedlaethol
Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cafwyd ymddiheuriadau gan y canlynol:
· y Brigadydd Gamble - Brigâd 160 (Cymru)
· y Comander Tom Herman – y Llynges Frenhinol: Ymddeolodd ar 19 Medi
· Lefftenant-cyrnol Lance Patterson - mae Dirprwy Gomander newydd Brigâd 160 (Cymru) bellach yn cyrraedd ar 15 Hydref
· John Skipper
· Peter Evans – y Lleng Brydeinig Frenhinol
· David Melding AC
· Mohammad Asghar AC
Fe gyflwynodd y rhai a oedd yn bresennol eu hunain:
- Darren Millar AC – Cadeirydd
- Comodor Jamie Miller CBE, Comander y Llynges, Rhanbarth Cymru a Gorllewin Lloegr - y Llynges Frenhinol
- Y Cadlywydd Awyr Adrian Williams
- Comander Cynorthwyol – Cyrnol Kevin Davies MBE RRC TD - Brigâd 160 (Cymru)
- Phil Jones - y Lleng Brydeinig Frenhinol
- Chris Downward - Asiantaeth Cyn-filwyr a'r Pwyllgor Pensiynau a SAFA
- Clive Wolfendale - Prif Weithredwr CAIS
- Geraint Jones - CAIS
- Stephen Hughes - RFCA i Gymru
- Dr Neil Kitchener – Gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr
- Trevor Edwards CMgr - Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn y Gwasanaeth Lles Meddygol – Amddiffyn (DMWS)
- Lisa Leece - Rheolwr darparu gwasanaethau DMWS
- Byron Davies AC - y Cynulliad Cenedlaethol
- Mia Rees - Cynorthwy-ydd Personol Darren Millar ac Ysgrifennydd y grŵp
- Mark Isherwood AC - y Cynulliad Cenedlaethol (cyrhaeddod yn hwyr am 13.00)
2. Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cytunwyd y bydd Darren Millar AC (DM) yn Gadeirydd ar y grŵp.
Cytunwyd y bydd Mia Rees yn ysgrifennydd i'r grŵp.
3. Rhaglen Change Step gan Clive Wolfendale - Prif Weithredwr CAIS a Geraint Jones, CAIS
Rhoddwyd y cyflwyniad hwn gan ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint, sy'n cynnwys llawer o'r wybodaeth a drafodwyd. Mae'r cyflwyniad hwn ar gael ar gais.
Yn ogystal, dosbarthwyd taflenni gyda gwybodaeth am y gwasanaeth - bydd y rhain hefyd ar gael ar gais.
Beth mae Change Step (CS) yn ei gynnig?
ü Mentora Cymheiriaid
ü Prosiectau yng Nghymru y mae DM wedi bod yn ymwneud â nhw
ü Maent yn dod o dan fanner elusennau Cyffuriau ac Alcohol Cymru (DACW)
ü Yn 2012-2013, cynhaliodd CS grwpiau ffocws gyda chyn-filwyr am yr hyn y maent am ei gael gan CS
ü Nid yw CS ond yn canolbwyntio ar anhwylder straen wedi trawma – mae hefyd yn delio ag alcohol, cyffuriau, cyflogaeth ac ati
ü Mae'n canolbwyntio ar ymgysylltu â chyn-filwyr sy'n anodd eu cyrraedd
ü Mae'n cydweithio'n agos â gwasanaethau lleol
ü Mae CS yn gweithredu fel dolen gyswllt a gwasanaeth cyfeirio
ü Mae'n gweithio gyda'r Heddlu, carchardai a'r Llysoedd
ü Mae'n gweithio ar atal grwpiau asgell dde eithafol rhag denu a thargedu cyn-filwyr
ü Digwyddiadau cymunedol
ü Mae wyth man galw heibio ledled Cymru
ü Cyswllt â lleiandy AF
ü Nid dim ond gyda'r tri llu y mae’n gweithio; mae CS hefyd yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys, e.e. y gwasanaeth ambiwlans a thân
ü Mae CS wedi bod yn canolbwyntio ar y rhai sy'n gadael y gwasanaeth yn gynnar, sef chwarter y cyn-filwyr y mae'n eu helpu
o Cafwyd trafodaeth ynghylch pam yr oedd angen cymorth, yn aml, ar y rhai sy'n gadael y gwasanaeth yn gynnar, ac awgrymwyd gan rai fod rhai dim ond yn ymuno oherwydd nad oeddent yn gallu meddwl am unrhyw beth arall i'w wneud neu y gallent ei wneud
o Mae gan y grŵp hwn lawer o broblemau o ran cyflogaeth
Cafwyd cwestiynau o'r llawr
Beth yw 'Cymorth Cyffredinol'? (Roedd hwn yn gategori ar y siart yn egluro pa fath o feysydd y mae CS yn helpu pobl â nhw, ynghyd â chyflogaeth, budd-daliadau, tai ac ati.) – Dr. Kitchener
· Mae'r rhain yn bobl sydd â nifer o broblemau sy'n dod i CS gan ddweud, "Mae fy mywyd yn llanast!"
· Yn aml, mae angen help arnynt mewn tipyn o feysydd, fel perthnasau, tai a lles.
· Mae CS yn cyfeirio'r bobl hyn at amrywiol sefydliadau sy'n gallu eu helpu, gan weithredu fel cydlynydd cadran.
Cyllid
· Mae CS yn cael £1 miliwn dros ddwy flynedd
· Cafwyd trafodaeth ynghylch sicrhau cyllid
Mentoriaid – pwy ydyn nhw?
· Cyn aelodau o'r fyddin ydyn nhw yn bennaf ac mae mwyafrif defnyddwyr y gwasanaeth o'r fyddin
Beth mae CS yn ei wneud yn ne-orllewin Cymru? A yw'n bwriadu symud yno? – Byron Davies AC
· Ydy, ond dim ond ychydig fisoedd yn ôl fe'i lansiwyd yng ngogledd Cymru a ledled Cymru ychydig wythnosau yn ôl.
· Mae CS yn ceisio sefydlu rhagor o ganolfanu galw heibio yn ne-orllewin Cymru. Gall Byron argymell rhai lleoliadau, a bydd CS yn cyfathrebu â Byron am hynny.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf gan Dr Neil Kitchiner - "Sut rydym yn defnyddio'r cyllid diweddar o £100,000 i fynd i'r afael â rhestrau aros gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr"
Rhoddwyd y cyflwyniad hwn gan ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint, sy'n cynnwys llawer o'r wybodaeth a drafodwyd. Mae'r cyflwyniad hwn ar gael ar gais.
· Nod y cyllid oedd lleihau rhestrau aros.
o Yn y cyflwyniad, nodwyd lle’r oedd rhagor o staff, pwy gafodd ei gyflogi ym mha fyrddau iechyd a lle mae swyddi gwag o hyd.
o Mae'r gwasanaeth gyfan yn cynnig 32 o sesiynau ychwanegol (3.75 awr) yr wythnos.
o Mae pawb yn cael o leiaf un sesiwn therapi awr o hyd.
o Mae cynnydd wedi bod yn y clinigwyr a'r staff gweinyddol ar draws pob bwrdd iechyd.
§ Mae hyn, yn naturiol, wedi gostwng yr amseroedd aros yn sylweddol.
§ Mae'r cyllid o £100,000 wedi cyflawni'r nod hwn yn y tymor byr.
§ Mae problem recriwtio yn parhau yn Hywel Dda - ni ddaeth unrhyw geisiadau i law. Mae'n debygol nad yw'r lleoliad yn llwyddo denu rhai, ond nid yw'r rhestr yn enfawr yn y bwrdd iechyd hwn.
o Ni chafwyd cynnydd yn y cyllid ers 2009, ar wahân i'r swm o £100,000 a gyhoeddwyd ar 26/6/14
o Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi syniad am arian pellach eto. Gofynnwyd yn ystod y cwestiynau faint y byddai ei angen ar y gwasanaeth bob blwyddyn ar ben y cyllid presennol i redeg yn effeithlon, a dywedodd Dr Kitchiner, yn ddelfrydol, byddai angen £100,000 y flwyddyn er mwyn cadw’r amseroedd aros am therapi o dan 18 wythnos.
· Mae matiau diodydd yn hyrwyddo gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr wedi cael eu hanfon at bob meddygfa meddygon teulu yng Nghymru, a rhoddwyd un i bob aelod o’r grŵp trawsbleidiol. Mae codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth yn dal yn bwysig.
· Adroddiad Iechyd y Cyhoedd - 15 o argymhellion
o Nid yw'r Gweinidog wedi llofnodi'r argymhellion eto.
· Ar hyn o bryd, ni all gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr helpu teuluoedd y lluoedd arfog na phersonél sy’n dal i wasanethu sydd ar hyn o bryd yn sâl gartref, gan nad yw'r capasiti ganddo.
o Yn ystod y sesiwn gwestiynau, holwyd Dr Kitchiner ymhellach am y mater hwn, a nodwyd fod gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr yn gweithio gyda Change Step ac eraill a wnaeth ddarparu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl i bartneriaid.
o Yn ystod y sesiwn gwestiynau, nodwyd hefyd fod gan y Weinyddiaeth Amddiffyn system lle caiff personél y lluoedd arfog eu monitro yn y cartref, ac maent yn cael ymweliadau yn rheolaidd.
Cwestiynau:
· Nodwyd nad oedd llawer o aelodau'r lluoedd arfog yn gofyn am help gyda'u hiechyd meddwl pan fyddant yn y lluoedd, gan eu bod yn pryderu y bydd yn effeithio ar ddatblygiad eu gyrfa.
CAM I'W GYMRYD: Dywedodd DM y byddai'n ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y cyllid o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr ac yn cyhoeddi'r argymehllion yn Adroddiad Iechyd y Cyhoedd
5. Cafwyd cyflwyniad gan Trevor Edwards CMgr - Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn y Gwasanaeth Lles Meddygol - Amddiffyn (DMWS).
Rhoddwyd y cyflwyniad hwn gan ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint, sy'n cynnwys llawer o'r wybodaeth a drafodwyd. Mae'r cyflwyniad hwn ar gael ar gais.
Yn ogystal, dosbarthwyd taflenni gyda gwybodaeth am y gwasanaeth - bydd y rhain hefyd ar gael ar gais.
Cyflwyniad ar DMWS
· Mae'n gweithio mewn ysbytai a chanolfannau adfer, diolch i gyllid gan Libor.
· Mae bellach yn ymledu ledled Cymru.
· Mae St Johns a'r Groes Goch Brydeinig yn sefydliadau rhiant (er nad yw’n cael arian gan y sefydliadau hyn). Mae DMWS hefyd yn gweithio gyda Help for Heroes, y Lleng Brydeinig Frenhinol a SAFFA.
· Mae'n gweithio mewn ysbytai mewn ardaloedd rhyfel.
o Mae'n gadael Afghanistan ac yn mynd i Sierra Leone.
· Mae'n gweithio fel contractwr i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
· Mae'r staff yn cynnwys nifer o gyn-bersonél milwrol a chyn-bersonél y GIG.
· Mae gweithio gyda chyn-filwyr yn faes newydd i DMWS.
· Mae DMWS yn sefydliad diduedd ac annibynnol.
o Nid oes angen iddo gyflwyno adroddiad ar bopeth – mae’n gyfrinachol.
· Mae'r rhan fwyaf o'i waith yn ymwneud ag asesiad cychwynnol a chyfeirio defnyddwyr at sefydliadau.
· Rhan o'i rôl yw mynd gyda'r teulu i unedau gofal critigol ac arbenigol i gynnig cefnogaeth ehangach iddynt.
· Mae’n gweithio mewn ysbytai milwrol.
· Mae’n ymgysylltu ynghylch materion sy'n ymwneud ag absenoldeb tosturiol.
· Mae’n recriwtio tîm arbenigol a phrofiadol.
§ Mae ganddynt wisg ac maent yn barod i'w hanfon.
§ Mae DMWS yn cynnig diploma lefel 3 mewn astudiaethau lles.
§ Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ymatebwyr cyntaf y Groes Goch.
§ Nid yw'n benodol filwrol.
· Erbyn hyn, mae ganddo dîm bychan iawn yng Ngogledd Iwerddon sy'n gweithio gyda Gweriniaeth Iwerddon.
· Mae ganddo amrywiaeth eang iawn o bobl a sefydliadau y gall gyfeirio atynt.
· Mae dau weithwyr proffesiynol yn gweithio yng Nghymru - un yn y gogledd ac un yn y de.
o Ond mae hefyd am ddod o hyd i wirfoddolwyr i gymryd rhan.
Cwestiynau:
Cymorth i gyn-filwyr
o Mae DMWS yn gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill y mae’n gallu anfon cyn-filwyr atynt.
o O ran lleoliadau, mae DMWS yn tueddu canolbwyntio ar ardaloedd lle mae nifer fawr yn dod ac yn dychwelyd.
Ble mae yng Nghymru?
· Mae un yn Aberhonddu
· Mae un yn Abergele yn y Groes Goch
o Mae'r ddau'n gweithio gyda'r prif ysbytai a'r ysbytai cylch yn GIG Cymru
Cyllid
· Bydd cyllid Libor yn para am 18 mis arall.
· Mae DMWS hefyd yn edrych ar gyllid mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Diploma Lefel 3
· Mae ar gael i'r rhai y tu allan i'r sefydliad.
o Mae Help for Heroes, y Lleng Brydeinig Frenhinol a'r Heddlu wedi gwneud defnydd o'r cymhwyster hwn.
Cyfanswm staff
· 47 o staff / swyddogion lles
6. Phil Jones, y Lleng Brydeinig Frenhinol (RBL) - Diweddariad cyflym ar y cyfleusterau dros dro yng Nghaerdydd ac yn Wrecsam.
a. Mae'r cyfleuster dros dro yn Stryd Fawr Caerdydd a Wrecsam bellach wedi agor.
i. Mae hwn yn gam mawr wrth annog pobl i ddod i mewn a'u gweld nhw.
b. Yng nghynadleddau'r pleidiau eleni, lansiodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei maniffesto ar gyfer 2015. Mae'r maniffesto llawn ar gael yn: http://www.britishlegion.org.uk/about-us/campaigns/manifesto-2015 ond mae rhai o'r prif bwyntiau'n cynnwys:
i. Gweddwon y lluoedd arfog yn cadw pensiynau os ydynt yn cyd-fyw neu'n ailbriodi.
ii. Cymhorthion clyw am ddim.
iii. Cymorth i bobl sy'n gadael y gwasanaeth yn gynnar.
CAM I'W GYMRYD: Holi Llywodraeth Cymru am faniffesto'r Lleng Brydeinig Frenhinol a'r hyn y mae'n ei wneud i gyflawni ei nodau a'i amcanion
7. Trafodaeth ar Gomisiynydd Cyn-filwyr yr Alban
· Cyflwynodd Darren y drafodaeth hon gan egluro ei fod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ei barn am fodel Comisiynydd Cyn-filwyr yr Alban, ond roedd yr ateb a ddaeth i law yn un gwan.
· Yr ateb hawdd fyddai gweld sut mae rhaglen Comisiynydd yr Alban yn mynd.
· BRL:
o Nid oes gwaith cydlynu ar hyn o bryd.
o Gallai Cymru arwain y ffordd.
o Byddai modd cael Comisiynydd Lluoedd Arfog, yn hytrach na dim ond dros gyn-filwyr.
· DM: Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran model y comisiynydd.
· Commander Cynorthwyol – Cyrnol Kevin Davies MBE RRC TD: Mae gan Gomisiwynwyr lais go iawn yng Nghymru.
8. Unrhyw fater arall
a. Cyrnol Davies: Heddiw, bu llawer o ffocws ar gyn-filwyr. Mae llawer wedi bod yn digwydd ym myd y cadetiaid.
i. Dywedodd DM wrth y grŵp trawsbleidiol ei fod wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch y newidiadau yn y cyllid i wasanaeth y cadetiaid.
ii. Cyrnol Davies: Mae tystiolaeth y bydd grwpiau cadét Cymru gyfan yn diflannu.
iii. Comodor Jamie Miller CBE, Comander y Llynges, Rhanbarth Cymru a Gorllewin Lloegr: Ni fydd unrhyw gyflog i'r staff sy'n rhedeg y cadetiaid
iv. CAM I'W GYMRYD; DM: Bydd yn trafod y mater hwn yn ei gyfarfod nesaf â swyddfa Cymru a bydd hefyd yn ceisio cwrdd â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y cadetiaid yng Nghymru.
Diolchodd DM i bawb am ddod a dywedodd y byddai cofnodion y cyfarfod yn cael eu hanfon maes o law.